
Gwybodaeth hefyd ar
Fideo - Sut i wneud hunan-brawf llif unffordd COVID-19: https://vimeo.com/523841370
17/12/2021
Llythyr i Rhieni ar Parentpay
Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi penderfynu y bydd pob ysgol yn cael dau ddiwrnod cynllunio ar ddechrau tymor newydd y gwanwyn. Yn Sir Gar bydd y rhain yn cael eu cynnal ar y 4ydd a’r 5ed o Ionawr. Bydd ein dysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol ar y 6ed o Ionawr.
30/11/2021 - Yn dilyn canllawiau newydd y llywodraeth dylai disgyblion wisgo mwgwd yn gwersi os na ellir cadw pellter cymdeithasol.
Gorchuddion wyneb yn yr ysgol (Medi 2021)
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei canllawiau ynglÅ·n â’r defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion. Mae'r canllawiau bellach yn nodi :
• Ni fydd angen gwisgo masg yn y dosbarth neu tu allan.
• Bydd angen gwisgo masg tu-fewn i’r adeilad pan na ellir cadw pellter
cymdeithasol o 2 fetr.
• Bydd angen gwisgo masg ar y bws.
​
Fel rydych chi’n sylweddoli, fel ysgol, mae dyletswydd arnom i ddilyn y canllawiau. Diolch am eich cefnogaeth.
Gwybodaeth bellach i'n disgyblion ar yr intranet ysgol ar-lein - yn cynnwys 'Neges y dydd Dr Llinos Jones. Gohebiaeth i rieni ar Parentpay hefyd.
​
1-5-2020 - Llythyr i rieni wrth Gyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Gâr (Twitter)
Taliadau Prydau Ysgol Am Ddim – coronafeirws
O'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 4 Mai, bydd mwyafrif y teuluoedd cymwys yn derbyn taliadau i'w cyfrifon banc/cymdeithas adeiladu.Yn ogystal â hwyluso pethau i deuluoedd, mae hyn hefyd yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth ynghylch teithio hanfodol.Caiff y taliadau eu gwneud bob pythefnos er mwyn i rieni / gwarcheidwaid barhau i ddarparu brecwast a chinio i'w plentyn / plant bum diwrnod yr wythnos.
​
30/4/2020 - http://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2020/04/coronavirus/taliadau-uniongyrchol-prydau-ysgol-am-ddim-coronafeirws-covid-19/#.XqsA0511if1…
​
Defnyddir Ysgol Bro Myrddin fel canolfan fwyd i helpu teuluoedd mewn angen o ganlyniad i'r coronafeirws.o ddydd Llun, 6 Ebrill ymlaen. Mae hyn oherwydd gallai'r ceginau yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth gael eu defnyddio i gefnogi'r ysbyty dros dro yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.
Bydd plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn derbyn cyflenwadau bwydydd sych, bwydydd tun, a bwydydd eraill sy'n para er mwyn bwydo'r teulu cyfan.
Mae'r canolfannau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 11.30am ac yn cael eu rhedeg gan staff y cyngor sydd wedi cael eu hadleoli i helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Sylwch na fydd y canolfannau bwyd ar agor ar ddydd Gwener y Groglith (10 Ebrill) na dydd Llun y Pasg (13
Ebrill).