top of page

Dydd Gwener 17-7-2020

 

Bore da i chi gyd.

​

Wel mae’n ddiwrnod olaf tymor a diwrnod olaf y flwyddyn academaidd 2019-20. Bydd y tymor olaf yma, wrth gwrs, yn dymor hanesyddol yn hanes pawb! Mae’n rhaid i chi heddi i gymryd amser i longyfarch eich hunan ar wneud mor dda. Chi wedi llwyddo, er waethaf popeth, i gario mlaen ac i wneud eich gorau.

​

Ddoe fe lwyddais, gyda llawer o gymorth! i drefnu fy nghyfarfod byw ar Teams a diolch enfawr i’r 75 disgybl o flwyddyn 10 a wnaeth ymuno gyda mi i wrando.

​

Heddi yn ystod y dydd fe fyddaf yn trefnu cyfarfod diwedd blwyddyn gyda phob blwyddyn (onibai am flwyddyn 10). Gofynnaf i bob un ohonoch chi i fynd ar eich Google Classroom dosbarth erbyn 11.00 heddi. Fe fydd linc yno i chi ar gyfer Live Event ar Teams a chewch gyfle i’m gweld yn fyw!!! Gobeithio y bydd pob un ohonoch yn medru bod yn bresennol. Peidiwch becso, so ni’n mynd i ganu! Cyfle i ffarwelio yw’r cyfarfod a chyfle i rannu gwybodaeth am ddechrau tymor nesaf.

​

Disgyblion blwyddyn 11, 12 a 13 fe fydd eich penaethiaid blwyddyn yn rhoi gwybodaeth i chi am drefniadau diwrnod derbyn eich canlyniadau ar Awst 13 (bl 12 a 13) ac Awst 20 (bl 11) ar Google Classrooms bugeiliol.

 

Mae llawer o ganllawiau ychwanegol i’w dilyn eleni oherwydd y pandemig.

 

Edrychaf ymlaen i’ch gweld chi gyd ym mis Medi. Rhag ofn nad yw eich rhieni wedi rhannu’r trefniadau gyda chi – dyma nhw.

​

Medi 1/2 – diwrnodau di-gyswllt (staff yn unig)

Medi 3 – Blwyddyn 7 a 12

Medi 4 – Blwyddyn 7, 11 a 13

Medi 7 – Blwyddyn 8, 9 a 10

Medi 8 – Blwyddyn 10, 11, 12 a 13

Medi 9 – Blwyddyn 7, 8 a 9

Medi 10 – Blwyddyn 10, 11, 12 a 13

Medi 11 – Blwyddyn 7, 8, 9, 10 a 11

Medi 14 ymlaen – pob disgybl.

​

 

Rwy’n cloi gyda llun bach neis i chi.

​

​

​

Welai chi mis Medi a diolch am bopeth.

bottom of page