top of page

Neges o groeso gan y Pennaeth

Cyfarchion cynnes iawn i chi i gyd a chroeso i wefan Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.  Ysgol Uwchradd benodedig Gymraeg yw Bro Myrddin a daw'r disgyblion atom o dref hynafol Caerfyrddin ac o ardaloedd cefn gwlad prydferth ochr orllewinol a gogleddol y Sir.

Ymfalchïwn yn safonau academaidd cyson uchel yr ysgol, ac mae ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn hynod o bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd.  
Mae cyfrannu at ddiwylliant Cymreig a Chymraeg trwy lu o weithgareddau 
gan gynnwys gwaith y Pwyllgor Cymreictod Torri Arfer, yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn allweddol bwysig, fel mae ein cyfraniad i'r gymuned leol, trwy waith elusennol, gwaith gwirfoddol ac amryw gysylltiadau eraill. Porwch drwy dudalennau ein gwefan er mwyn i chi ddysgu mwy am ein gwaith ac er mwyn i chi gael blas ar fywyd yr ysgol.  

  Dr Llinos Jones

LLJ2.jpg

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Croes-y-Ceiliog,
Caerfyrddin,
Sir Gaerfyrddin,
Gorllewin Cymru. SA32 8DN

Rhif ffôn - 01267 234829

E-bost - swyddfa@bromyrddin.org

Dilynwch ni
  • Wix Facebook page
  • Twitter Classic
  • Instagram
Dylai Rhieni a Gwarcheidwaid wirio am negeseuon ar ParentPay yn rheolaidd.
System bwcio apwyntiadau Schoolcloud
Gwefannau defnyddiol -
bottom of page