
Fel ysgol fro, y mae Bro Myrddin yn cynnig addysg sy’n ceisio ateb
anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig.
Cynigir yr un cyfle cyfartal i bob disgybl ddatblygu hyd eithaf ei allu
yn academaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, yn feddyliol ac
yn gorfforol. (Polisi Cyfle Cyfartal ar gael yn yr ysgol)
​
​
-
Creu cymdeithas fyw lle y gwerthfawrogir gwerthoedd moesol ac
ysbrydol a lle y pwysleisir rhinweddau megis cyfiawnder,
gonestrwydd, ymddiriedaeth, goddefgarwch ac ymdeimlad o
ddyletswydd.
​
-
Rhoi cyfle i bob disgybl feistroli’r grefft o gyfathrebu drwy’r
Gymraeg a’r Saesneg, gan bwysleisio’r Gymraeg fel iaith naturiol
yr ysgol.
-
Cynorthwyo’r disgybl i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith a
fydd yn ei alluogi i weithio fel aelod o dîm ac yn annibynnol.
-
Paratoi pob disgybl i fyw fel aelod cyfrifol a gwerthfawr o’r gymdeithas, i ddatblygu perthynas gadarnhaol gydag eraill ac i ddatblygu hunan-barch a pharch at bobl, eiddo a’r amgylchedd.
-
Cynorthwyo’r disgybl i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru ac i fedru cyfrannu at gymdeithas amlieithog yng Nghymru, Ewrop a’r byd.
-
Sicrhau cyfleoedd priodol i holl aelodau staff yr ysgol i ddatblygu’n
broffesiynol.
-
Wrth geisio gwireddu’r uchod, pwysleisir y bartneriaeth a’r
cydweithio angenrheidiol rhwng disgyblion, aelodau o staff,
rhieni a llywodraethwyr.
Heb Ddysg Heb Ddeall

