top of page

Cadeirydd – Nicola Rees

Ysgrifennydd – Gwenllian Evans

Trysorydd – Miriam James 

Clwb 500 – Mari Campbell


Gweplyfr(Facebook) CRA - Facebook.com/crabromyrddinpta

Trydar(Twitter) CRA - @craybmpta

​

​

Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yn bodoli i feithrin cyfeillgarwch ymhlith rhieni ac athrawon ac i godi arian er lles yr ysgol. Dros gyfnod o flwyddyn mae’r pwyllgor yn trosglwyddo swm sylweddol o arian i’r ysgol er mwyn cynorthwyo yr ysgol gyda datblygiadau arbennig.  Er mwyn codi’r arian hyn mae’r gymdeithas yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau megis Noson Rhostio Mochyn a Cwis, Noson Harddwch ac ati. Bwriad y pwyllgor eleni yw i godi £5,000 eto. Mae gennym rai cynlluniau ond plîs os oes rhai ohonoch a syniadau neu yn medru gwirfoddoli rhowch alwad i ysgrifenyddes y Pennaeth er mwyn cael mwy o wybodaeth a chyswllt gyda swyddogion y pwyllgor.

 

Ar hyn o bryd rydym yn cysylltu â rhieni trwy negeseuon testun, Facebook a Twitter. Ffordd hawdd iawn o godi arian i ni yw
Y Clwb 500’. Mae pob teulu yn gallu ymuno am £12 y flwyddyn. Yn fisol ceir tair gwobr a’r rhifau lwcus fydd yn ennill. Gellir casglu ffurflenni oddi wrth aelodau’r pwyllgor.

CLWB 500

GWOBRAU DA BOB MIS

1. £30    

2. £20   

3. £10


Mae’r Gymdeithas Rieni ac Athrawon yma er lles ein hieuenctid ni. Mae pob ceiniog a godwyd yn ystod y flwyddyn yn cael ei wario ar ein plant. Diolch am eich cefnogaeth i’r gweithgareddau eleni ac rwy’n hollol hyderus y bydd llwyddiant ysgubol yr ysgol yn parhau.

Cymdeithas Rieni ac Athrawon /
Parents and Teachers Association
bottom of page