top of page
Polisi E-ddiogelwch
Nod yr ysgol yn y polisi hwn ydy i sicrhau ein bod yn amddiffyn ein dysgwyr ac yn eu haddysgu sut i wneud defnydd cyfrifol a diogel o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu...
POLISI GOFAL BUGEILIOL
Ni all unrhyw drefn fugeiliol lwyddo heb fod yna gymuned ofalgar yn bodoli. Mae pawb yn rhan o’r drefn hon. Er mwyn sicrhau sylw cyson i bob unigolyn y mae’n rhaid wrth strwythur penodol...
POLISI RECRIWTIO MWY DIOGEL
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â pholisïau a gweithdrefnau’r ysgol ynghylch diogelu plant ac adleoli a’r cyfarwyddyd ynghylch gwiriadau cyn cyflogi yn cynnwys yr angen am eirda a datgeliad cofnodion troseddol. Mae cyfarwyddyd i reolwyr ynghylch y polisi hwn ar gael ond nid yw’n rhan o’r polisi ei hun....
RHEOLI MEDDYGINIAETH MEWN YSGOLION
ae'r canllawiau hyn wedi cael eu llunio i gynorthwyo sefydliadau wrth osod trefniadau rheoli lleol ar gyfer rhoi meddyginiaeth....
Polisi Sylweddau ac Ysmygu (mewnanadlu/ vaping)
Nid yw’r ysgol yn goddef camddefnyddio cyffuriau, gan gynnwys ysmygu, mewnanadlu ac yfed alcohol gan aelodau’r ysgol, nac ychwaith yn goddef cyflenwi’r sylweddau hyn yn anghyfreithlon ar dir yr ysgol....
Polisi Chwythu’r Chwiban
Cyflwyniad Diffiniwyd chwythu’r chwiban fel a ganlyn: ‘the disclosure by an employee or professional of confidential information which relates to some danger, fraud or other illegal or unethical conduct connected with the work place, be it of the employee or his/her fellow employees’ (Public Concern at Work Guidelines 1997)....
Polisi Gwrth Fwlio
Y bwriad yw bod Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol ddiogel heb le i’r bwli. Pwysleisir bod pob agwedd o fwlian yn cael ei gymryd o ddifrif a’n bod yn ysgol sy’n gwrando, yn gofalu ac yn gweithredu...
Polisi datblygu dulliau integredig i gefnogi dysgu cyfunol
Mae diogelu yn un o egwyddorion hanfodol dysgu digidol. Diogelwch a lles dysgwyr yw'r ystyriaeth bwysicaf, ac mae hynny’n cael blaenoriaeth dros yr holl ystyriaethau eraill. Bydd Ysgol Bro Myrddin yn ystyried y ddarpariaeth ac yn ymateb i’r gofynion ar sail asesiad risg, cynhwysedd y safle, argaeledd staff, nifer y dysgwyr a pha mor aml y gallant fynychu’r sefydliad yn ddiogel. Rydym yn dod i benderfyniad ar sail yr hyn sy’n gweithio orau mewn dysgu cyfunol ac wedi ystyried barn disgyblion, rhieni a staff wrth wneud hynny...
Adolygiadau o'r marcio –
marciau a asesir gan y ganolfan (Asesiadau dan Reolaeth TGAU, gwaith cwrs TAG, asesiadau di-arholiad TAG a TGAU Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i sicrhau fod gwaith ymgeiswyr yn cael eu marcio'n deg, yn gyson ac yn unol â manyleb a dogfennau cysylltiedig penodol i bwnc y corff dyfarnu pan fo staff y ganolfan yn gwneud y marcio....
Polisi Amddiffyn Rhag Radicaleiddio
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â deddfwriaeth, arweiniad a pholisïau cenedlaethol a lleol allweddol – gweler Atodiad 4 am lyfryddiaeth lawn....
Polisi Presenoldeb - Gofynion Cyfreithiol
Yn ôl Deddf Addysg 1996 rhaid i: 1. bob disgybl fynychu ysgol yn gyson ac os nad ydynt mai eu rhieni yn troseddu os nad oes rheswm derbyniol am yr absenoldeb 2. bob ysgol gadw cofrestr presenoldeb a’i lenwi yn ddyddiol ar ddechrau sesiwn y bore a’r prynhawn 3. bob ysgol gofnodi absenoldeb hanner diwrnod fel absenoldeb gyda chaniatâd neu heb ganiatâd – yr ysgol sydd a’r awdurdod i benderfynu os yw’r rheswm am yr absenoldeb yn deilwng yn ôl y canllawiau 4. bob ysgol drosglwyddo gwybodaeth ynglŷn ag absenoldeb i’r Awdurdod Lleol...
Protocol Atal
Bydd adegau pan fydd yn angenrheidiol atal gweithiwr o'r ysgol â thâl wrth i'r ymchwiliadau angenrheidiol gael eu cyflawni. Er enghraifft, mewn achosion o gamymddwyn difrifol, pryderon iechyd a diogelwch neu pan fydd risg i weithiwr neu ddisgybl(ion), eiddo neu o ran cyfrifoldebau i bartïon eraill....
Polisi Amddiffyn Plant Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn cydnabod yn llawn y cyfraniad y mae’n ei wneud i amddiffyn plant...
Canllawiau i Staff ar Reolaeth Gorfforol
Amlinella y polisi hwn sefyllfaoedd pryd mae modd defnyddio grym rhesymol gan aelod o staff i reoli ymddygiad disgyblion. Rhagdybir bydd hwn ond yn cael ei ddefnyddio mewn achosion eithriadol ac fel y dewis olaf i reoli ymddygiad. ...
Polisi Graddau a Bennir gan y Ganolfan (fersiwn dysgwyr a rhieni)
Mae'r Polisi yn amlinellu sut y bydd yr ysgol, fel canolfan arholi, yn defnyddio’r ‘Canllawiau ar Drefniadau Amgen ar gyfer TGAU Cymeradwy, AS a Safon Uwch’ a ddarperir gan Gymwysterau Cymru, y rheolydd arholiadau, i helpu i benderfynu graddau yn 2021...
Polisi Cwricwlwm
Mae'r ysgol yn ymrwymedig i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys, sydd yn ymateb i ofynion statudol, datblygiadau cyfredol yn y maes a diddordebau penodol ein dysgwyr. Sicrhawn fynediad cyfartal i bob dysgwr gan gynnig iddynt gyfleoedd addysgol o safon gyson uchel, er mwyn iddynt ddatblygu'r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i’w galluogi i gyrraedd eu potensial llawn...
Polisi Di-fwg, Ysmygu a Mewnanadlu
Mae'r polisi hwn wedi cael ei ddatblygu drwy broses ymgynghori lawn gyda disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr. Mae'r ysgol yn safle di-fwg....
Polisi Iechyd a Diogelwch
Polisi Iechyd a Diogelwch Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin...
Polisi Defnydd Cymraeg Anffurfiol
Cyflwyniad Iaith anffurfiol yw’r iaith a ddefnyddir gan ddisgyblion yr ysgol o gwmpas y coridorau pan nad ydynt mewn gwersi. Bwriad y polisi hwn yw creu fframwaith ysgol gyfan er mwyn sicrhau perchnogaeth ysgol gyfan...
Polisi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)
Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn rhan bositif a gwarchodol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n chwarae rôl ganolog wrth gefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau perthnasoedd boddhaus, iach a diogel trwy gydol eu bywydau. Mae ACRh hefyd yn rhan allweddol o’n rôl ddiogelu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin...
Polisi Addysg Iechyd, Bwyd a Ffitrwydd
Nodau : 1.Diogelu iechyd personol a chymdeithasol y plentyn 2. Cymell pobl ifainc i fyw bywydau iach 3. Cynorthwyo pobl ifainc i feithrin hunan-barch 4. Annog pobl ifanc i sylweddoli eu bod yn rheoli unrhyw benderfyniadau ynglŷn a’u hiechyd...
Polisi ar Godi Tâl am Weithgareddau Ysgol
Pwrpas y Polisi Pwrpas y polisi hwn yw egluro’r taliadau y gellir ac na ellir eu codi am weithgareddau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Mae’r polisi wedi’i lunio yn unol ag Adrannau 449-462 o Ddeddf Addysg 1996 sy’n egluro’r gyfraith ynghylch y taliadau y gellir ac na ellir eu codi am weithgareddau mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol....
POLISI DISGYBLION COLL - GWEITHREFN DISGYBLION
Pob tiwtor dosbarth i gwblhau cofrestru yn gywir ac amserol yn y sesiwn gofrestru am 9:00yb (uchafswm o 10 munud) CADWCH y gofrestr. Os oes gwasanaeth, ac mae’r disgyblion yn hwyr, mae’n rhaid iddynt fynd i dderbynfa’r ysgol i gofrestru yn hwyr...
POLISI ARHOLIADAU
Polisi Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yw rhoi cymwysterau ffurfiol i gymaint o ddisgyblion a phosibl. Mae disgyblion yr ysgol yn sefyll arholiadau Cydbwyllgor Addysg Cymru ar gyfer y mwyafrif mawr o gyrsiau Llwybrau Mynediad, TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Cynigir ychydig o gyrsiau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch gan gyrff dyfarnu EDEXCEL ac AQA hefyd. Mae'r ysgol yn darparu cyrsiau galwedigaethol gan gyrff dyfarnu eraill yn ogystal a'r rhai a enwir uchod. Ar gyfer asesu dyfarnu Sgiliau Hanfodol Cymru defnyddir gweithdrefnau CBAC....
Polisi Technoleg Gwybodaeth A Chyfathrebu Rhagarweiniad Mae’r polisi hwn yn amlinellu amcanion, egwyddorion a strategaethau’r ysgol ar gyfer cyflwyno Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu...
Polisi Addoli ar y Cyd
Fel ysgol, credwn yn gryf bod addoli ar y cyd yn rhan bwysig o’n bywyd ysgol. Cynhelir gwasanaeth ysgol gyfan yn y neuadd ar ddydd Llun, Mawrth, Mercher a Gwener bob wythnos. (gweler Trefniadau Gwasanaeth Boreol)...
POLISI GYRFAOEDD A’R BYD GWAITH
Mae polisi Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (GBG) yr ysgol wedi ei seilio ar y ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ‘Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru’. ..
POLISI ADDYSG BERSONOL A CHYMDEITHASOL
Beth yw ABCh? Yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin mae'r cwricwlwm bugeiliol yn rhan bwysig o’r cwricwlwm cyfan ac yn sicrhau ein bod fel ysgol yn datblygu pob unigolyn yn ysbrydol, yn foesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol ac yn paratoi’r disgyblion am gyfleoedd, cyfrifoldebau a bywyd fel oedolyn...
Polisi Hybu Ymddygiad Cadarnhaol
“Good behaviour is a necessary condition for effective teaching to take place.” (Adroddiad Elton – 1989)
Egwyddorion Sylfaenol y Polisi  Polisi ymddygiad sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad personol yr unigolyn a chynnydd yn hytrach nac ar gosb a beio eraill yw hwn...
Gweithdrefn Gwyno
1. Cyflwyniad 1.1 Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi ymrwymo i ymdrin â chwynion yn effeithiol. Rydym yn anelu at egluro unrhyw faterion nad ydych yn siŵr yn eu cylch. Os oes modd, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydym wedi’u gwneud a byddwn yn ymddiheuro. Rydym yn anelu at ddysgu oddi wrth gamgymeriadau a defnyddio’r profiad hwnnw i wella’r hyn a wnawn...
Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol - Nodau ac amcanion
1. Sicrhau Addysg o safon uchel o fewn cwricwlwm eang, cytbwys, perthnasol ac addas er mwyn rhoi pob cyfle i ddisgyblion gyrraedd eu llawn botensial a gwella hunan ddelwedd. 2. Creu amgylchedd sy’n cwrdd â gofynion anghenion addysgol disgyblion er mwyn hybu eu datblygiad gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol. Dysgu iddynt sgiliau ac egwyddorion a fydd yn eu galluogi i ddatblygu i fod yn aelodau llawn o gymdeithas yr ysgol a’r gymdeithas ehangach yn y dyfodol. 3. Sicrhau bod anghenion addysgol arbennig plant yn cael eu hadnabod a’u hasesu. 4. Ateb gofynion addysgol y plant drwy sicrhau fod y ddarpariaeth ar eu cyfer yn addas ac yn gwneud defnydd o adnoddau priodol...
Polisi Apeliadau Mewnol Cymwysterau Allanol
Mae Polisi ar Apeliadau Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin mewn dwy ran: 1. Polisi ar Asesiadau Mewnol ar gyfer Cymwysterau Allanol 2. Polisi ar Asesiadau Allanol ar gyfer Cymwysterau Allanol (Ymholiadau am Ganlyniadau)...
CYNLLUN CYDRADDOLDEB I BOBL ANABL
Mae’r Cynllun Mynediad i’r Anabl yn nodi ein hagwedd tuag at hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl ymhob agwedd o fywyd ein hysgol. Mae ein Cynllun yn cynnwys holl agweddau ar anabledd p’un ai fod hyn mewn perthynas â disgyblion a’u rhieni a gofalwyr, staff ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgol. Mae ein dealltwriaeth o anabledd yn union fel yr un a gyflwynwyd gan y Comisiwn Hawliau Anabledd...
Polisïau ysgol
bottom of page