top of page

Sefydlu'r ysgol ym 1978
Pan agorwyd drysau Ysgol Gyfun Bro Myrddin i ddisgyblion am y tro cyntaf ddydd Mercher, Medi 6ed 1978, gwireddwyd breuddwyd y rhai oedd wedi ymdrechu'n ddiwyd dros addysg ddwyieithog yn y fro ers blynyddoedd lawer. Sefydlwyd yr ysgol fel rhan o gynllun ad-drefnu addysg uwchradd ar ffurf gyfun yn ardal Caerfyrddin. Daeth y cyfle i sefydlogi'r ddarpariaeth yn y De-Orllewin gyda'r ad-drefnu, a manteisiwyd ar y cyfle i agor ysgolion uwchradd dwyieithog yn Aberystwyth (Penweddig) yna Llanelli (Strade), Caerfyrddin (Bro Myrddin), Cwm Gwendraeth (Maes-yr-yrfa), Llandysul (Dyffryn Teifi) a Gogledd Penfro (Preselau).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Drefn Newydd

Penderfynwyd sefydlu tair ysgol gyfun newydd, sef Ysgol Gyfun y Frenhines Elisabeth, Maridunum, yn adeilad Uwchradd Ystrad Tywi, Ysgol Gyfun y Frenhines Elisabeth, Cambria yn adeilad Ysgol Ramadeg y Merched ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn adeilad Ysgol Ramadeg y Bechgyn.


Roedd rhywfaint o ddysgu drwy'r Gymraeg yn yr ysgolion uwchradd dan yr hen gyfundrefn, felly penderfynwyd rhoi cyfle i rieni drosglwyddo eu plant o'r ysgolion yma i ffurfio dosbarthiadau'r ail a'r drydedd flwyddyn ym Mro Myrddin. Oherwydd ein bod yn rhannu safle, ac felly yn brin iawn o le, nid oedd modd estyn yr un dewis i ddisgyblion yn uwch i fyny'r ysgol. Roedd y rhain yn parhau i ddilyn rhai cyrsiau drwy'r Gymraeg (Hanes, Daearyddiaeth ac Ysgrythur ) yn ein hen ysgolion.

Gosodwyd yr holl wybodaeth yma ar ffurf cylchlythyr a ddosbarthwyd i rieni'r cylch yn yr Hydref 1977. Nodwyd hefyd ar gyfer Bro Myrddin pa bynciau a fyddai yn cael eu cynnig drwy'r Gymraeg, a pha bynciau drwy'r Saesneg ( y Gwyddorau ), yn unol â phenderfyniad Pwyllgor Addysg Dyfed ac yn dilyn y patrwm a osodwyd flwyddyn yn gynharach wrth sefydlu Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.

 

Trefnwyd cyfres o gyfarfodydd i rieni yn gynnar yn 1978, er mwyn egluro'r holl newidiadau a datblygiadau ymhellach. Rhoddwyd cyfle yn y cyfarfodydd hyn i rieni disgyblion yn yr ysgolion uwchradd ac yn y flwyddyn olaf yn yr ysgolion cynradd i holi’r Cyfarwyddwr Addysg, y Swyddog Addysg Rhanbarthol, yr Uwch-drefnydd Ysgolion Uwchradd, cynrychiolwyr y Pwyllgor Addysg a phrifathrawon yr ysgolion cyfun newydd - Miss M.M. Wooloff, Mr. E.A. Stephens a Mr Gareth H. Evans. Yn dilyn y pum cyfarfod swyddogol a drefnwyd, penderfynwyd rhoi mwy o gyfle i rieni holi ymhellach mewn cyfarfodydd llai ffurfiol. Erbyn mis Mawrth, roedd 11 cyfarfod wedi eu cynnal a phob rhiant yn y cylch wedi cael cyfle i fynegi barn, ac i drafod yr holl ddatblygiadau.

Cylchlythyrwyd y rhieni unwaith eto, gan fanylu ymhellach ynglŷn â threfniadaeth Ysgol Bro Myrddin, a chan ofyn y tro hwn i rieni oedd yn dymuno i'w plant fynychu'r ysgol hon lenwi a dychwelyd atodiad i'r llythyr. Cawsom wybod cyn y Pasg y byddai 76 plentyn yn y flwyddyn gyntaf, 53 yn yr ail flwyddyn a 74 yn y drydedd flwyddyn - 203 i gyd. Erbyn mis Medi, roedd y nifer wedi cynyddu i 213 yn dilyn dau benderfyniad gan y Pwyllgor Addysg.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Flwyddyn Gyntaf 1978-79

Yn y lle cyntaf, roedd rhieni pum plentyn a fyddai yn dechrau'r bedwaredd flwyddyn o addysg uwchradd ym mis Medi, ac felly’n rhy hen i ddod i Fro Myrddin, wedi ennill yr hawl i gadw eu plant yn ôl am flwyddyn, er mwyn iddynt ddod i fewn atom ni yn nosbarthiadau'r drydedd flwyddyn. Yn yr ail le, penderfynwyd caniatáu ceisiadau oddi wrth rieni oedd yn byw tu allan i ddalgylch swyddogol yr ysgol am lefydd i’w plant , ar yr amod bod lle iddynt o fewn ein dosbarthiadau ni, a bod y rhieni yn derbyn y gyfrifoldeb a'r gost o'u cludo i Gaerfyrddin. Daeth pum plentyn arall atom yn dilyn y penderfyniad hwn. Agorodd yr ysgol felly gyda 79 yn y flwyddyn cyntaf, 54 yn yr ail flwyddyn a 80 yn y drydedd flwyddyn.

Er bod y trefniadau o ran sefydlu’r ysgol yn ymddangos yn gymhleth, maent yn syml iawn o'u cymharu â'r trefniadau ar gyfer staffio! Roedd yr Awdurdod Addysg, wrth sefydlu’r tair ysgol gyfun newydd, yn cau y ddwy ysgol ramadeg a'r ysgol uwchradd. Roedd swyddi pob athro yn y tair ysgol yma yn dod i ben ar ddiwedd Awst 1978.


Roedd yn ofynnol felly i'r holl athrawon gynnig am swyddi newydd fel pe bai'r tair ysgol gyfun yn gweithredu'n llawn o ddosbarth un i ddosbarth chwech, a chynhaliwyd cyfres o gyfweliadau rhwng Hydref a Rhagfyr 1977. Erbyn y Nadolig, roedd 27 athro wedi eu penodi i Fro Myrddin. Bu'n rhaid hysbysebu dwy swydd ychwanegol yn allanol yn y flwyddyn newydd gan nad oedd ymgeiswyr cymwys i'w llenwi o fewn y system. Roedd yr athrawon yn deall na fyddai eu swyddi newydd ym Mro Myrddin yn rhai llawn amser, o bosib tan 1982-83 pan fyddai yr ysgol wedi tyfu i gynnwys ail flwyddyn y chweched dosbarth, ac yn y cyfamser byddai disgwyl iddynt rannu eu hamser rhwng Bro Myrddin ac un arall o ysgolion cyfun y dref.

Cyfnod anodd oedd hwn, gyda'r ysgol yn rhannu adeiladau, a'r athrawon yn gwibio o ysgol i ysgol. Ond o’r dechrau, llwyddwyd i greu uned glos a chyfeillgar gydag ysbryd arbennig iawn ymhlith athrawon a disgyblion. Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith fod dylanwad Ysgol Gyfun Bro Myrddin yr un mor amlwg yn y De-Orllewin ag yw cyfraniad ei chwaer ysgolion yn y Gogledd a'r De Ddwyrain.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Newid safle yn 1996

Daeth blynyddoedd o ymgyrchu i ben pan symudodd Ysgol Bro Myrddin i adeilad newydd yn yr hydref 1996. Bellach mae gan yr ysgol uwchradd ddwyieithog hon, sydd yn gwasanaethu dalgylch sy’n ymestyn o Landeilo yn y Dwyrain i Hwlffordd yn y Gorllewin, adeiladau ac adnoddau gyda'r gorau yng Nghymru, wedi eu codi ar gost of ryw £8 miliwn, ar safle 30 erw yng Nghroes-y-ceiliog ar gyrion tref Caerfyrddin. 'Roedd y stori yn wahanol iawn pan agorodd Bro Myrddin ei drysau am y tro cyntaf ym Medi 1978.

Roedd 213 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol y flwyddyn honno. Tyfodd yr ysgol yn gyson yn ystod yr 80au a'r 90au ond oherwydd natur yr hen adeiladau a'r prinder lle ar y safle, nid oedd modd ehangu i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn yr ardal, ac o ganlyniad, bu'n rhaid chwilio am safle newydd addas, ac am yr adnoddau cyllidol i adeiladu'r ysgol newydd. Bellach, mae 816 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, gyda 46 o athrawon a 14 o staff atodol.

Ym 1978 'roedd y disgyblion bron i gyd yn dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Erbyn heddiw, daw 35% o gartrefi di-Gymraeg. Mae'r plant yma yn derbyn rhan o'u haddysg gynradd trwy'r Gymraeg ac erbyn cyrraedd 11 oed, mae ganddynt afael ddigon cadarn ar yr iaith i barhau â'u haddysg trwy'r Gymraeg ym Mro Myrddin. Yma, y Gymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol. Dysgir Saesneg wrth gwrs, trwy gyfrwng yr iaith honno. Mae Mathemateg a Gwyddoniaeth yn cael eu dysgu trwy'r iaith a ddefnyddir ar gyfer y pynciau hynny yn yr ysgolion cynradd, a dysgir popeth arall - Cymraeg, Ffrangeg, Hanes, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Cerdd, Celf, Drama ac Addysg Gorfforol, trwy'r Gymraeg yn unig. Erbyn gadael Bro Myrddin, mae'r disgyblion yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac yn barod i gymryd eu lle yn y byd.

Mae Bro Myrddin a'i chwaer ysgolion ledled Cymru - wedi hen ddangos, trwy gynnal y safonau uchaf, eu bod yn llwyddo i gynnig yr addysg y mae rhieni yn ei dymuno ar gyfer eu plant. Mae twf yr ysgolion hyn yn argoeli yn dda ar gyfer dyfodol yr iaith yn ein gwlad.


 

Hanes sefydlu'r ysgol
bottom of page